Y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Iau, 9 Mai 2013 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:30 - 12:11 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Ann Jones (Cadeirydd) Keith Davies Suzy Davies Rebecca Evans Bethan Jenkins Lynne Neagle David Rees Aled Roberts Simon Thomas |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Dr Simon Hoffman, Prifysgol Abertawe Pat Dunmore, Grŵp Monitro CCUHP Martin Swain, Llywodraeth Cymru Keith Towler, Comisiynydd Plant Cymru Huw Lewis AC, y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Sian Thomas (Ymchwilydd) Ffion Emyr Bourton (Clerc) Rhodri Wyn Jones (Dirprwy Glerc) |
|||
|
|
||||
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod.
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Angela Burns. Nid oedd dim dirprwyon yn bresennol.
2 Craffu ar gydymffurfiaeth Llywodraeth Cymru ag adran 1 o Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 a'r cynllun gweithredu Gwneud Pethau'n Iawn diwygiedig
2.1 Croesawodd y Cadeirydd Gomisiynydd Plant Cymru i’r cyfarfod. Holodd yr Aelodau y tyst.
Cam i’w gymryd
Cytunodd y Comisiynydd Plant i anfon ei bryderon ynghylch ‘Gwneud Pethau’n Iawn: y wybodaeth ddiweddaraf 2013’ at y Pwyllgor.
3 Craffu ar gydymffurfiaeth Llywodraeth Cymru ag adran 1 o Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 a'r cynllun gweithredu Gwneud Pethau'n Iawn diwygiedig
3.1 Croesawodd y Cadeirydd Pat Dunmore a Dr Simon Hoffman i’r cyfarfod. Holodd yr Aelodau y tystion.
Cam i’w gymryd
Cytunodd y tystion i anfon eu pryderon ynghylch ‘Gwneud Pethau’n Iawn: y wybodaeth ddiweddaraf 2013’ at y Pwyllgor.
4 Craffu ar gydymffurfiaeth Llywodraeth Cymru ag adran 1 o Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 a'r cynllun gweithredu Gwneud Pethau'n Iawn diwygiedig
4.1 Croesawodd y Cadeirydd y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, a Martin Swain i’r cyfarfod. Holodd yr Aelodau y tystion.
Camau i’w cymryd
Cytunodd y Gweinidog i ddarparu:
(i) enghreifftiau o ble mae Asesiadau o Effaith ar Hawliau Plant wedi cael effaith ar ddeddfwriaeth neu bolisi penodol neu wedi llywio trafodaethau’r Cabinet, sydd wedi arwain at newidiadau cadarnhaol;
(ii) y wybodaeth ddiweddaraf am y mathau gwahanol o hyfforddiant a ddarperir ar y CCUHP a nifer y staff sydd wedi cwblhau’r hyfforddiant hwnnw; a
(iii) nodyn ar gyfraniad rhanddeiliaid mewn perthynas â ‘Gwneud Pethau’n Iawn: y wybodaeth ddiweddaraf 2013’.
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod er mwyn trafod y prif bwyntiau
5.1 Cytunwyd ar y cynnig.